Skip to Main Content

Job Title


Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol


Company : Yolk Recruitment Ltd


Location : Wales, UK


Created : 2025-05-01


Job Type : Full Time


Job Description

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol Mae Adnodd yn un o gyrff hyd braich Llywodraeth Cymru. Maen gyfrifol am arwain a chydlynur gwaith o ddarparu adnoddau addysgol yn Gymraeg ac yn Saesneg i ysbrydoli dysgu ac addysgur Cwricwlwm i Gymru. Gweledigaeth Adnodd yw bod gan ein holl ymarferwyr a dysgwyr, beth bynnag fou cefndir, yr hawl i gael adnoddau addysgol o ansawdd da a fydd yn taniou dychymyg, yn hybu eu lles, ac yn ysgogi cariad gydol oes at ddysgu. Y cyfle Fel Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol, byddwch chin arwain y gwaith o ddylunio a rhoi ar waith strategaeth y sefydliad ar gyfer cyfathrebu, marchnata ac ymwneud rhanddeiliaid. Byddwch chin gwneud cyfraniad o bwys at ddatblygu a gwella enw da brand Adnodd drwy fod yn rhagweithiol ym myd cysylltiadau cyhoeddus ar wasg, a thrwy gydweithion effeithiol phartneriaid strategol. Byddwch chin defnyddio dadansoddeg, gwybodaeth a data i fireinio a gwellan barhaus ein strategaethau ymgysylltu, ar rheinin cyd-fynd blaenoriaethau strategol Adnodd ar Cwricwlwm i Gymru. Y cyfrifoldebau Arwain a rhoi ar waith Strategaeth Gyfathrebu Adnodd, gan sicrhau bod ein negeseuon yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn effeithiol, au bod yn cryfhau ein brand ac yn adlewyrchui werthoedd. Rheolir holl waith cyfathrebu allanol, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyron, cynnwys ar y we, a chysylltiadau r wasg, er mwyn hyrwyddo ac amlygur gwaith y mae Adnodd yn ei wneud. Meithrin cyfathrebu mewnol effeithiol, drwy helpu i sicrhau bod y staff yn cefnogi amcanion y sefydliad a thrwy hyrwyddo diwylliant agored a chynhwysol. Arwain y broses o ymwneud rhanddeiliaid, gan feithrin partneriaethau cryf gydar sector addysg, Llywodraeth Cymru, y cyfryngau a chymunedau syn cael eu tangynrychioli er mwyn rhoi sail i waith a dylanwadu ar waith yn y meysydd hyn. Monitro a gwerthuso gwaith cyfathrebu, gan ddefnyddio tystiolaeth a gwybodaeth i wellai gyrhaeddiad ai effeithiolrwydd a gwerth am arian. Am beth rydyn nin chwilio Profiad amlwg o arwain strategaethau cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus neu ymgysylltuyn ddelfrydol yn y byd addysg, yn y sector cyhoeddus, neu yn y sector nid-er-elw. Y gallu i droi syniadau cymhleth yn gynnwys dwyieithog clir syn argyhoeddi. Profiad o ddefnyddio adnoddau digidol, o reoli cysylltiadau r cyfryngau, ac o ymwneud chynulleidfaoedd ar blatfformau niferus. Sgiliau rheoli prosiectau a rheoli cyllidebau rhagorol, gyda phwyslais ar gyflawni ac ar gael effaith. Sgiliau rhyngbersonol cryf ar gallu i feithrin ymddiriedaeth rhanddeiliaid ar bob lefel. Rhywun syn angerddol dros addysg ac wedi ymrwymo i ddwyieithrwydd. Gradd neu gymhwyster proffesiynol perthnasol (dyma fydd yn cael ei ffafrio). Hyfedredd ieithyddol Maen hanfodol eich bod yn hyfedr yn y Gymraeg ar Saesneg. Y buddion 37.5 awr yr wythnos amgylchedd gweithio hyblyg 30 diwrnod o wyliau blynyddol Gwyliau Cyhoeddus Gwyliau ychwanegol Dydd Gyl Dewi Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil Amrywiaeth o fanteision eraill I wneud cais Yolk Recruitment yw partner recriwtio arbennig Adnodd ac felly bydd yr holl geisiadaun cael eu rheoli gan dm Yolk, gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw Adnodd. I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr i gyd-fynd (dim mwy na 500 o eiriau) at Hannah Welfoot yn Yolk Recruitment. Dyddiad cau: Mercher, 14 Mai Dyddiad y cyfweliad ar asesiad: D ydd Iau, 22 Mai Lleoliad y cyfweliad ar asesiad: Caerdydd Ymunwch ni ar ein taith i greu profiadau dysgu cyfoethog, cynhwysol syn cefnogi ac yn ysbrydoli addysgwyr a dysgwyr fel ei gilydd. Mae Adnodd wedi ymrwymo i greu gweithle amrywiol, cynhwysol a grymusol, lle bydd pawb yn perthyn. Rydyn nin frwd yn ein hawydd i groesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir, yn enwedig y rheini o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a phobl anabl. Rydyn nin cydnabod ac yn gwerthfawrogir safbwyntiau ar profiadau unigryw y bydd gan bob unigolyn iw cynnig, ac rydyn ni wedi ymroi i sicrhau tegwch yn ein prosesau recriwtio a thrwy ein holl sefydliad.